Gwleidydda

BBC Radio Cymru

Geef deze podcast je waardering

Bewaren

Trafodaeth ar rai o straeon gwleidyddol yr wythnos. Political discussion.

Y Pedwar Llew Tew

07 okt · 38 min

Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones. Mae nhw’n trafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar drafnidiaeth, araith Kemi Badenoch yng Nghynhadledd y Torïaid ac ymddiswyddiad dirprwy arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, Phil Davies. Mae’r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi - cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

Rhwng Dau Rosyn

30 sep · 29 min

Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl.

Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a chyfeiriad y blaid Lafur yng Nghymru.

Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

Owain Clarke, y gohebydd iechyd sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones yr wythnos hon i drafod y rhestrau aros sy'n wynebu'r llywodraeth newydd ym Mae Caerdydd.

Mae'r ddau hefyd yn trafod penodiad dau arweinydd newydd i Reform yng Nghymru.

Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod y trafferthion mae plaid Reform wedi'u hwynebu yn y Senedd yr wythnos hon.

Mae cyn-ddirprwy arweinydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones, hefyd yn ymuno i drafod y goblygiadau o dderbyn aelod sydd wedi croesi'r llawr.

Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Reform - Cai Parry-Jones

09 sep · 27 min

Cai Parry-Jones o blaid Reform UK sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod ei argraffiadau cyntaf o fod yn Aelod o'r Senedd.

Mae’r ddau yn holi Cai am gynhadledd Reform a'r ymchwiliadau i ariannu'r blaid ar hyn o bryd.

Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Penyberth

07 sep · 55 min

Dyma rifyn arbennig o Gwleidydda gyda Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones yn nodi 90 mlynedd ers llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth. Yn y bennod yma fe drafodir arwyddocâd y tân a’r effaith ar genedlaetholdeb heddiw, a hynny yng nghmwni Dafydd Iwan, Ian Gwyn Hughes, ŵyr Lewis Valentine, y cyn farnwr Nic Parry a’r hanesydd Mari Wiliam.

Bethan Rhys Roberts a'r gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr sy'n trafod dechrau'r tymor gwleidyddol newydd. Mae'r ddwy yn dadansoddi sesiwn PMQs cyntaf y Prif Weinidog Andy Burnham cyn troi at gynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru. Ydy'r cyfnod mis mêl ar ben i'r ddau Brif Weinidog newydd? Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

Cloch Clacton

14 aug · 21 min

Yn dilyn rhifyn arbennig o'r Babell Lên yn Eisteddfod y Garreg Las, mae Bethan a Richard yn ôl yn y stiwdio yn dadansoddi canlyniad is-etholaiad Clacton on Sea. Arweinydd plaid Reform UK, Nigel Farage, yn ennill gyda 63% o'r bleidlais sy'n cael sylw y ddau.

Bethan Rhys Roberts sy'n holi'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, yng nghwmni Vaughan Roderick a Richard Wyn Jones yn Y Babell Lên ar faes Eisteddfod y Garreg Las.

Mewn sgwrs wedi ei recordio'n fyw o flaen gynulleidfa, mae'r Prif Weinidog yn trafod heriau ei swydd newydd, ei brofiad o lywodraethu, a'i weledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Mae'r gynulleidfa yn cael cyfle i holi cwestiynau. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

Amser a ddengys

29 jul · 28 min

Des Clifford, cyn-bennaeth Swyddfa Prif Weinidog Cymru, sy'n ymuno â Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones i drafod y gwahaniaethau rhwng dyddiau cynnar y Prif Weinidogion Rhun ap Iorwerth ac Andy Burnham.

Mae'r tri hefyd yn trafod strategaeth y ddau arweinydd ar y cyfryngau cymdeithasol.

Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn drwy e-bostio [email protected].

Crafu'r Cregyn Llong

22 jul · 24 min

Cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones sy'n ymuno gyda Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod diwrnodau cyntaf seithfed Prif Weinidog y DU mewn degawd, Andy Burnham. Mae'r tri hefyd yn trafod penodiad Stephen Kinnock fel Ysgrifennydd Cymru ac yn holi beth mae ei benodiad yn ei olygu i ddatganoli. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Gwynfor a'r Gyllideb

15 jul · 36 min

Wedi sesiwn holi olaf Keir Starmer fel Prif Weinidog, mae Vaughan a Richard yn trafod ei gyfnod wrth y llyw. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi methiant Llywodraeth Cymru i basio ei chyllideb atodol a'r tensiynau rhwng y blaid Lafur a Phlaid Cymru. A 60 mlynedd wedi ethol Gwynfor Evans mae ei gyn-asiant, Peter Hughes-Griffiths yn edrych yn ôl ar lwyddiant y cyfnod a'r hyn yr oedd yn ei olygu i Blaid Cymru.

Cyn-Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, sy'n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon.

Mae'r tri yn trafod be all dyfodol y blaid Lafur bod o dan arweinyddiaeth Andy Burnham, ymddiswyddiad Nigel Farage fel Aelod Seneddol a'r galw dros system bleidleisio newydd. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Fformiwla Burnham?

01 jul · 30 min

Bethan Rhys Roberts, Richard Wyn Jones ac Elliw Gwawr sy'n craffu ar fformiwla Barnett yr wythnos hon.

Mae'r tri yn trafod pa mor deg yw'r fformiwla i Gymru a pa mor debygol yw Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig o newid y drefn.

Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Meseia heb fandad?

24 jun · 28 min

Bethan Rhys Roberts sy'n ymuno â Vaughan a Richard i drafod pam penderfynodd Keir Starmer i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur.

Mae'r tri yn trafod be all Andy Burnham fel Prif Weinidog olygu i ddatganoli.

Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Yr Ymddiswyddiad

22 jun · 18 min

Ar ôl i Syr Keir Starmer gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel arweinydd y blaid Lafur, beth nesa' i'r blaid a'r wlad? Vaughan, Elliw a chyn Aelod o Senedd Cymru, Alun Davies sy'n dadansoddi'r cyfan.

Buddugoliaeth i Burnham

19 jun · 28 min

Buddugoliaeth Andy Burnham yn is-etholiad Makerfield sy'n destun trafod i Vaughan a Richard.

Mae’r ddau yn dadansoddi beth mae hyn yn golygu i'r Prif Weinidog, Kier Starmerm ac yn ateb eich cwestiynau chi.

Cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio [email protected]

Cip ar y Cyfansoddiad

10 jun · 25 min

Dafydd Trystan Davies AS, y Gweinidog Cabinet dros Effeithlonrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad, sy’n ymuno â Vaughan a Richard yr wythnos hon i drafod ei swydd newydd. Mae’r ddau hefyd yn dadansoddi is-etholiad Makerfield yr wythnos nesa'. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Pedwar Prif Weinidog

03 jun · 27 min

Pedwar Prif Weinidog Gyda bron pedair wythnos ers etholiad y Senedd mae Vaughan, Richard ac Elliw yn trafod faint o effaith 'nath yr ymgyrch cael ar y bleidlais derfynol. Mae'r tri hefyd yn trafod sesiwn holi gyntaf y Prif Weinidog. Mae'r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Blair iawn

27 mei · 35 min

Vaughan a Richard sy'n trafod sylwadau diweddar Syr Tony Blair am sefyllfa Llywodraeth Lafur Prydain. Pa effaith fydd achos cyn brif weithredwr yr SNP Peter Murrell yn ei gael yn yr Alban? Ac mae gan Richard atebion i'ch cwestiynau chi.

Cofiwch fod modd i chi gysylltu â'r criw gyda'ch ymateb chi i'r canlyniad trwy e-bostio [email protected]

Wythnos Mêl?

20 mei · 26 min

Vaughan, Richard ag Elliw yn trafod trafferthion y Llywodraeth Lafur yn San Steffan ac yn edrych yn ôl dros ddyddiau cyntaf Llywodraeth Plaid Cymru wrth y llyw yn y Senedd.

Andy-bendod

15 mei · 24 min

Mewn pennod brys o'r pod mae Vaughan a Richard yn ôl i drafod y diweddara o ran sefyllfa wleidyddol yn San Steffan. Mae'r ddau hefyd yn trafod cabinet newydd Lywodraeth Cymru a beth all y newidiadau golygu. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Amser i Lywodraethu

13 mei · 25 min

Ar ôl canlyniad hanesyddol Etholiad y Senedd wythnos dwetha' mae Vaughan a Richard yn trafod goblygiadau'r canlyniad. Mae'r ddau hefyd yn dadansoddi'r heriau fydd yn wynebu'r Prif Weinidog newydd, Rhun ap Iorwerth. Mae'r ddau hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Canlyniad Hanesyddol

08 mei · 25 min

Mae Vaughan, Bethan a Richard yn cael cwmni y cyn-Brif Weinidog Llafur Carwyn Jones a'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones i ddadansoddi canlyniad hanesyddol yr etholiad. Cofiwch bod modd i chi gysylltu a'r criw gyda'ch ymateb chi i'r canlyniad trwy ebostio [email protected]

Cyfri'r Oriau

05 mei · 25 min

Gydag oriau yn unig cyn etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan a Richard yn trafod tactegau'r pleidiau i sicrhau bod eu cefnogwyr yn mynd ati i bleidleisio. Mae'r tri yn asesu sut fath o ymgyrch sydd wedi bod a beth allwn ni ei ddisgwyl ddydd Gwener ar ddiwrnod y cyfri. Mae'r tri hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch gysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

Cofio'r Cyfri

02 mei · 20 min

Ar ôl cyflwyno deg etholiad cyffredinol, saith etholiad Cynulliad a Senedd, a phedwar refferendwm, etholiad y Senedd ar ddydd Gwener fydd yr etholiad olaf gyda Dewi Llwyd yn y gadair fawr. Mewn pennod arbennig gyda Vaughan Roderick mae'r ddau yn trafod atgofion o ddyddiau Margaret Thatcher hyd at gyfnod Syr Keir Starmer ac Eluned Morgan.

Yr Wythnos Olaf

29 apr · 36 min

Gydag ychydig ddyddiau tan etholiad y Senedd, mae Vaughan, Bethan, Elliw a Richard yn trafod y diweddara' wrth i ni baratoi ar gyfer y bleidlais. Mae'r pedwar yn edrych nol ar y dadleuon teledu, trafod yr arolwg barn diweddara’ ac yn dadansoddi sut all y nifer sy'n mynd ati i bleidleisio effeithio ar y canlyniad wythnos nesaf. Mae'r panel hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected].

Dadansoddi'r Dadlau

23 apr · 21 min

Wedi ei recordio yn syth ar ôl y Ddadl Fawr yng Nghaerfyrddin, Alun Thomas, Bethan Rhys Roberts a'r Athro Richard Wyn Jones sy'n cnoi cil ar y dadlau.

Dadleuon a Dadansoddi

22 apr · 32 min

Elliw Gwawr, Yr Athro Richard Wyn Jones a Betsan Powys sy'n trafod y diweddaraf yn yr ymgyrch etholiadol. Gyda nifer o ddadleuon teledu wedi bod a mwy ar y gorwel, faint o wahaniaeth mae nhw'n ei gael? Mae'r tri hefyd yn dadansoddi'r arolygon barn diweddaraf. Mae Elliw, Richard a Betsan hefyd yn ateb eich cwestiynau chi. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

De Luisterclub

Om de week onze luistertips in je mail, met alle ruimte om die van jou te delen.

Je ontvangt twee mailtjes per maand en je kunt je op elk moment weer uitschrijven.